Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad


Lleoliad:

Fideogynadledda drwy Zoom

Dyddiad: Dydd Llun, 27 Tachwedd 2023

Amser: 13.31 - 14.35
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
13551


O bell

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau o’r Senedd:

Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd)

Alun Davies AS

James Evans AS

Adam Price AS

Tystion:

Staff y Pwyllgor:

P Gareth Williams (Clerc)

Gerallt Roberts (Ail Glerc)

Sarah Sargent (Ail Glerc)

Kate Rabaiotti (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.

</AI1>

<AI2>

2       Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

</AI2>

<AI3>

2.1   SL(6)416 – Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Dyddiad Cyhoeddi'r Cofrestrau Etholiadol) (Cymru) 2023

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

</AI3>

<AI4>

3       Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

</AI4>

<AI5>

3.1   SL(6)414 – Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) (Rhif 3) 2023

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI5>

<AI6>

3.2   SL(6)415 – Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI6>

<AI7>

4       Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 – trafodwyd eisoes

</AI7>

<AI8>

4.1   SL(6)404 – Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

</AI8>

<AI9>

4.2   SL(6)405 – Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i ysgrifennu at y Llywodraeth yn gofyn am ragor o eglurder.

</AI9>

<AI10>

4.3   SL(6)406 – Rheoliadau Gwahardd Llosgi Gwastraff Penodedig, neu ei Ddodi ar Safle Tirlenwi (Cymru) 2023

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i ysgrifennu at y Llywodraeth yn gofyn am ragor o eglurder.

</AI10>

<AI11>

4.4   SL(6)407 – Gorchymyn Gwahardd Gwaredu Gwastraff Bwyd i Garthffos (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i ysgrifennu at y Llywodraeth yn gofyn am ragor o eglurder.

</AI11>

<AI12>

4.5   SL(6)410 – Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig) (Cymru) 2023

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

</AI12>

<AI13>

5       Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

</AI13>

<AI14>

5.1   Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar Fasnach

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog yr Economi

</AI14>

<AI15>

5.2   Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Tai, Llywodraeth Leol a Chymunedau

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

</AI15>

<AI16>

5.3   Gohebiaeth gan Brif Weinidog Cymru: 40fed Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Prif Weinidog

</AI16>

<AI17>

6       Papurau i'w nodi

</AI17>

<AI18>

6.1   Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi at y Llywydd: Y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel)

Nododd y Pwyllgor yrohebiaeth gan Weinidog yr Economi at y Llywydd.

</AI18>

<AI19>

7       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i ethol Cadeirydd dros dro ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ar 4 Rhagfyr 2023

Cafwyd enwebiad ar gyfer Cadeirydd dros dro o dan Reol Sefydlog 17.22, a chytunodd y Pwyllgor ar yr enwebiad. Gwnaeth y Pwyllgor ethol Alun Davies AS yn Gadeirydd dros dro ar gyfer ei gyfarfod ar 4 Rhagfyr 2023.

</AI19>

<AI20>

8       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

</AI20>

<AI21>

9       SICM(6)3 – Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol) 2023: Adroddiad drafft

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno. Yn ogystal, nododd y Pwyllgor yn ffurfiol yr ohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.

</AI21>

<AI22>

10    Egwyddorion drafft ar gyfer deddfu drwy Filiau'r DU

Trafododd y Pwyllgor ei egwyddorion drafft ar gyfer deddfu drwy Filiau’r DU, a chytunodd i'w trafod ymhellach mewn cyfarfod yn y dyfodol.

</AI22>

<AI23>

11    Gweithdrefnau ar gyfer craffu ar ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 a fframweithiau polisi cyffredin y DU gyfan

Trafododd y Pwyllgor ei weithdrefnau ar gyfer craffu ar ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 a fframweithiau polisi cyffredin y DU gyfan, a chytunodd i drafod y materion hyn ymhellach yn y cyfarfod nesaf.

</AI23>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>